Newid maint y testun
Defnyddiwch y cyfarwyddiadau canlynol os ydych yn cael anhawster darllen cynnwys y wefan hon. Os nad yw eich porwr gwe wedi’i gynnwys yn y rhestr, cysylltwch â ni fel ein bod yn gallu gwella eich profiad o gysylltu â ni dros y We.
Firefox
Agorwch y ddewislen ‘View’ yn rhan uchaf y sgrîn. Yn y ddewislen hon dewiswch ‘Zoom’ (chwiliwch am ‘Text Size’ mewn fersiynau hŷn) a bydd hyn yn agor is-ddewislen wrth ymyl y dewis hwn. Defnyddiwch yr is-ddewislen hon i wneud y testun yn fwy neu’n llai. Llwybrau cyflym:
'Ctrl' a '+' - gwneud y testun yn fwy
'Ctrl' a '-' - gwneud y testun yn llai
'Ctrl' a '0' - dychwelyd at y maint diofyn
Internet Explorer 7
Agorwch y ddewislen ‘Page’ yn rhan uchaf y sgrîn ar yr ochr dde. Dewiswch ‘Text Size’ ac yna defnyddiwch yr is-ddewislen a gaiff ei hagor i ddewis y maint testun y mae arnoch ei angen. Os ydych yn dymuno mwyhau ffenestr y porwr gwe i gyd ynghyd â’r holl gynnwys yn hytrach na dim ond y testun, yna dewiswch ‘Zoom’ o’r ddewislen ‘Page’. Bydd hyn yn agor is-ddewislen lle gallwch ddewis y lefel chwyddo. Llwybrau cyflym:
'Ctrl' a '+' - chwyddo
'Ctrl' a '-' - dadchwyddo
Internet Explorer 6
Agorwch y ddewislen ‘View’ yn rhan uchaf y sgrîn. Yn y ddewislen hon dewiswch ‘Text Size’ ac yna defnyddiwch yr is-ddewislen a gaiff ei hagor i ddewis y maint testun y mae arnoch ei angen.
Opera
Gallwch wneud y testun a’r graffeg yn fwy neu’n llai gan ddefnyddio’r bysellau ‘+’ a ‘-‘ ar y pad rhifau (mewn rhai fersiynau bydd angen i chi ddal y fysell ‘Shift’ tra’ch bod yn pwyso '+' neu '-'.
Netscape
Agorwch y ddewislen ‘View’ yn rhan uchaf y sgrîn. Yn y ddewislen hon dewiswch ‘Text Zoom’ ac yna defnyddiwch yr is-ddewislen a gaiff ei hagor i ddewis y maint testun y mae arnoch ei angen.
