Erfyniwn felly arnoch chi a’ch mudiad neu sefydliad i ystyried sut orau i hybu agenda Her Iechyd Pen-y-bont ar Ogwr a thrwy wneud hynny i ddod yn bartneriaid inni fel llysgenhadon dros iechyd da. Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau eich bod yn barod i ymuno â ni a rhoi gwybod inni am eich cynlluniau/syniadau ar gyfer cyfrannu tuag at ymateb i’r her.

Efallai’n wir eich bod eisoes yn gysylltiedig â gweithgareddau a mentrau sy’n ategu agenda HIC. Os felly byddai gennym ddiddordeb mawr mewn cael gwybod beth ydych yn ei gyflawni gan ein bod yn awyddus i rannu syniadau da ag eraill.

Os hoffech wybod mwy am Her Iechyd Cymru a’r hyn y gallwch chi ei wneud i helpu, a’r gweithgareddau sy’n digwydd yn lleol cysylltwch â David Parratt yn CBS Pen-y-bont ar Ogwr ar 01656-643531 neu drwy’r e-bost: David.Parratt@bridgend.gov.uk,

A fyddai’n well gennych ysgrifennu atom? 

Ym mis Hydref 2005, fe estynnodd Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan AC, wahoddiad i sefydliadau a grwpiau yng Nghymru i ddatgan yn gyhoeddus eu bod yn cefnogi Her Iechyd Cymru. Mae datgan cefnogaeth i Her Iechyd Cymru’n golygu bod y sefydliad neu’r grŵp yn addo gwneud y canlynol:

  • Cydnabod pwysigrwydd iechyd a lles da
  • Deall, neu geisio gwybodaeth am, y ffactorau sy’n effeithio ar iechyd a lles pobl.
  • Gwneud yr hyn a all i helpu ei gwsmeriaid, defnyddwyr ei wasanaethau, ei gyflogeion neu aelodau o’r cyhoedd i ofalu am eu hiechyd a, lle y bo’n bosib, ei wella.
  • Dangos cefnogaeth i Her Iechyd Cymru trwy ddefnyddio’r logo ar ddeunyddiau argraffedig ac electronig perthnasol a gynhyrchir ar gyfer ei gwsmeriaid, defnyddwyr ei wasanaethau, ei gyflogeion a’i/neu’i aelodau.

Mae Her Iechyd Cymru’n seiliedig ar chwe thema allweddol sy’n greiddiol i raglenni gwella iechyd. Y themâu yw:

Gwybodaeth bellach 

I gael gwybodaeth bellach am gamddefnyddio sylweddau gweler gwefan BILl Pen-y-bont ar Ogwr.

  • Bwyd a Ffitrwydd
  • Heintiau
  • Ysmygu
  • Damweiniau ac anafiadau
  • Camddefnyddio alcohol a sylweddau eraill
  • Iechyd meddwl a lles meddyliol

Yn yr ardal hon cefnogir Her Iechyd Pen-y-bont ar Ogwr gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Bwrdd Iechyd Lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, a mudiadau a sefydliadau eraill sy’n ymrwymedig i wella iechyd pobl Pen-y-bont ar Ogwr.