Mae’r wybodaeth (a’r data) yn yr atodiad hwn wedi’i bwriadu i fod yn enghreifftiol, a gall amrywio
Datgelodd Cyfrifiad 2001 fod gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:
- boblogaeth o 128,645, y rhagwelir y bydd yn cynyddu tua 3,500 erbyn 2006, gyda’r cynnydd mwyaf yn debygol ymhlith pobl oedrannus
- poblogaeth o oedran gweithio sy’n cyfateb i ychydig dros 71% o’r boblogaeth gyfan
- 53,342 o aelwydydd â 2.4 o bobl ar gyfartaledd ym mhob aelwyd. Amcangyfrifir y bydd cynnydd o 6,500 yn nifer yr aelwydydd wrth i’r boblogaeth gynyddu ac wrth i faint cyfartalog yr aelwydydd ostwng. Bydd llawer o’r tai newydd wedi’u lleoli y tu allan i’r cymoedd
