Felly cofiwch, os ydych chi neu eich mudiad neu sefydliad yn gweithio i wella iechyd a lles pobl yng Nghymru, efallai y byddwch yn gallu defnyddio brand Her Iechyd Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae brand Her Iechyd Cymru’n dangos ein bod ni i gyd yn cydweithio i wneud Cymru’n genedl iachach. Mae’r brand yn arwydd a fydd o gymorth i bobl gydnabod eich bod yn darparu gwasanaeth neu wybodaeth a fydd yn eu helpu hwy i wella eu hiechyd a’u lles.

Mae Her Iechyd Cymru’n ein hatgoffa y gall camau bychain wneud gwahaniaeth mawr ac mae’n ein rhoi ar ben ffordd wrth inni fynd ar drywydd iechyd gwell. Felly rhowch ystyriaeth o’r newydd i Her Iechyd Cymru a gwnewch benderfyniad i wneud newid bach ond gwahaniaeth mawr.

Rydym wedi cael cais ar sawl achlysur am gyngor ynghylch defnyddio Logo Her Iechyd Pen-y-bont ar Ogwr. Dyma dri awgrym:

  • ni ddylid ond ei ddefnyddio i ddwyn cyhoeddusrwydd i wybodaeth neu weithgareddau sy’n cyfrannu tuag at well iechyd a lles;
  • ni ellir ei ddefnyddio i gefnogi cynhyrchion penodol er mantais fasnachol;
  • Mae Hawlfraint y Goron arno ac mae’n nod masnach cofrestredig. Os caiff ei ddefnyddio’n amhriodol, gallech chi neu eich mudiad neu sefydliad fod yn atebol am dalu unrhyw iawndal sy’n deillio o ddefnydd amhriodol, a byddwn yn gofyn i chi ymatal rhag defnyddio’r brand yn y dyfodol.

Os oes arnoch angen unrhyw gyngor ynghylch defnyddio’r logo rhowch wybod i David Parratt.