Cyfraddau Marwolaethau (Marwolaeth)
- Bu i’r gyfradd marwolaethau oed-safonedig Ewropeaidd (EASR) ar gyfer trigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ostwng 10 y cant o 801 ym 1996-98 i 720 yn 2003-05. Dros yr un cyfnod cafwyd gostyngiad o fwy na 12 y cant yn y gyfradd EASR gyfatebol ar gyfer Cymru
- Prif achosion marwolaeth yw clefyd y galon, clefyd anadlol a chanser
Salwch ac Afiechyd (Morbidrwydd)
- Mae chwarter y boblogaeth (25%) yn dweud bod ganddynt afiechyd, problem iechyd neu anabledd hirdymor sy’n cyfyngu ar eu gweithgarwch neu eu gwaith beunyddiol o’i gymharu â lefel Cymru gyfan o 23.3%
- Yn ôl Arolwg Iechyd Cymru 2005, mae iechyd meddwl ac iechyd corfforol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ychydig yn waeth na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru gyfan
Tlodi
- Ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2005, roedd 10 o’r Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is ym Mhen-y-bont yn y 10% mwyaf amddifadus yng Nghymru. Y rhain yw: Betws, Melin Ifan Ddu 1, Melin Ifan Ddu 2, Bracla 3, Caerau 1, Caerau 2, Caerau 3, Corneli 4, Morfa 2 a Sarn 1. Ynghyd â Llangeinwyr, mae ardaloedd Betws, Melin Ifan Ddu a Chaerau ar hyn o bryd yn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf. Mae menter adfywio fawr yn mynd rhagddi yng Nghaerau ar hyn o bryd, a honno’n cael ei harwain gan CBS Pen-y-bont ar Ogwr.
- Yn 2007 cafodd pedair ardal arall eu hychwanegu at Raglen Cymunedau’n Gyntaf.
- Ceir gwahaniaethau o ran ffyniant rhwng Wardiau cyfagos, gyda phocedi o amddifadedd dwys yn y Fwrdeistref Sirol
- Nid yw pobl a theuluoedd mwy ynysig yn defnyddio’r gwasanaethau sydd ar gael am ystod o resymau, a all gynnwys diffyg cludiant a phroblemau cyfathrebu
Yr Amgylchedd
- Gall problemau cludiant fod yn rhwystr go iawn yn enwedig i fynediad at waith, cyfleoedd dysgu, gofal iechyd, siopau bwyd a gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol a chwaraeon. Mae ychydig dros 25% o’r bobl leol heb eu cludiant eu hunain sy’n debyg i’r sefyllfa yng Nghymru gyfan ac yn Lloegr
Tai
- Cafwyd fod problemau iechyd corfforol a thrallod seicolegol yn gysylltiedig â gorboblogi, tai llaith, llwydni, llygryddion dan do, oerfel a digartrefedd
- Mae ychydig o dan 10% o’r tai heb fod yn ffit i bobl fyw ynddynt, sy’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol (8.5% ar gyfer Cymru a 7.5% yn Lloegr)
- Mae diffyg tai fforddiadwy a cheir dibyniaeth ar lety dros dro
- Gall fod yn anos cael mynediad at wasanaethau prif ffrwd oherwydd gwahaniaethau cyfathrebu a diwylliannol
Addysg
- Yn ôl Cyfrifiad 2001, mae dros draean (36%) o’r bobl 16-74 ym Mhen-y-bont ar Ogwr heb unrhyw gymwysterau (o’i gymharu ag 20% yng Nghymru a Lloegr)
Diogelwch Cymunedol
- Cafwyd fod gwahaniaethau mewn lefelau troseddu rhwng gwahanol wardiau
- Daw’r mwyafrif o garcharorion o ardaloedd â chyflogaeth isel ac amddifadedd a thai gwael ac maent yn debygol o fod wedi profi afiechyd
- Mae 46% o’r carcharorion heb unrhyw gymwysterau addysgol, mae 34% wedi profi anawsterau dysgu ac mae bron i 80% heb gael help gyda’u problemau
Ffordd o fyw
- Yr un rhan o bump fwyaf amddifadus yn y boblogaeth yw’r rhai sy’n tueddu i fod fwyaf gwrthwynebol i negeseuon ynghylch rhoi’r gorau i ysmygu
- Dros chwarter yr oedolion ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy’n debyg i weddill Cymru.
- Mae cymeriant ffrwythau a llysiau ffres ar gyfartaledd yng Nghymru’n is na’r lefelau argymelledig, ac mae cymeriant cyfartalog pobl ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hyd yn oed yn is
- Dim ond 26% o’r oedolion ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy’n gwneud ymarfer corff ar y lefelau argymelledig ar gyfer iechyd (gwneud ymarfer cymedrol neu egnïol ar 3 achlysur neu fwy bob wythnos), sydd ychydig yn uwch na’r cyfartaledd yng Nghymru gyfan
- Yn 2000, fe gymerodd un rhan o dair o’r bechgyn 11-12 mlwydd oed a hanner y bechgyn 15-16 mlwydd oed ran mewn gweithgarwch corfforol y tu allan i’r ysgol am o leiaf bedair awr yr wythnos. Dim ond un rhan o bump o’r merched 11-16 mlwydd oed oedd yn gwneud ymarfer corff ar y lefel hon
- Mae tlodi a gorboblogi’n gysylltiedig ag ymlediad clefydau trosglwyddadwy megis y diciâu (twbercwlosis)
- O’i gymharu â Chymru gyfan, mae mwy o ferched yn eu harddegau dan 16 mlwydd oed yn beichiogi. Nid yw pob beichiogrwydd ymhlith merched yn eu harddegau’n rhai digroeso neu anfwriadol, ond mae gweithgarwch rhywiol o oedran cynnar a beichiogrwydd cynnar yn peri risg i iechyd corfforol ac iechyd meddwl, ac yn rhoi plant yn eu harddegau dan anfantais gymdeithasol ac addysgol
Gwasanaethau Sgrinio ac Imiwneiddio a Brechu
- Ceir amrywiadau yn nifer y merched a’r menywod sy’n cael profion sgrinio’r fron a sgrinio serfigol yn y grwpiau oedran diffiniedig ledled y Fwrdeistref Sirol
- Mae cyfraddau brechu MMR (pan fo plant yn 2) yn gwella – 97.5% ar gyfer ardal Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr – sy’n golygu bod plant bach iawn a phlant ag imiwnedd gwan yn arbennig o agored i’r risg o gael y frech goch a’i chymhlethdodau
Clefyd y Galon a Diabetes
- Mae astudiaethau wedi dangos bod perthynas rhwng amddifadedd a nifer yr achosion o, a marwolaethau o glefyd y galon a diabetes Math 2 (Gellir atal Math 2 trwy faethiad digonol ac ymarfer corff). Mae bron i 5% o’r bobl leol yn dioddef o glefyd y galon ac mae 3% wedi cael diagnosis diabetes gan eu meddyg teulu
Clefyd Anadlol
- Mae tlodi’n achosi cyfran uwch o farwolaethau ymhlith pobl â chlefyd anadlol nag ymhlith pobl ag unrhyw glefyd arall
- Mae dynion 20-64 mlwydd oed sydd mewn galwedigaethau bôn braich di-grefft tua 14 gwaith yn fwy tebygol o farw o Glefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint, sy’n fath o glefyd y frest, a 9 gwaith yn fwy tebygol o farw o’r diciâu na dynion sy’n gyflogedig mewn rolau proffesiynol
Canserau
- Mae pobl sy’n byw mewn tlodi’n dueddol o ysmygu ac mae’u safonau maethiad yn is sy’n cynyddu eu risg o ddatblygu canser
- Mae’r tebygolrwydd o oroesi canser yn amrywio rhwng pobl amddifadus a goludog ac mae’r gyfradd goroesi’n uwch ymhlith pobl oludog
Iechyd Meddwl
- Mae cysylltiad rhwng tlodi ac iechyd meddwl gwael
- Yn seiliedig ar ganfyddiad pobl am eu hiechyd meddwl mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr islaw’r Cyfartaledd yng Nghymru (Arolwg Iechyd Cymru)
- Yn ôl Arolwg Iechyd Cymru mae 10% o’r bobl ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu trin am afiechyd meddwl o’i gymharu â chyfartaledd o 9% yng Nghymru gyfan
Camddefnyddio Sylweddau
-
Mae cysylltiad rhwng camddefnyddio sylweddau, sy’n cynnwys alcohol, cyffuriau anghyfreithlon, moddion a hydoddyddion, a phroblemau megis diweithdra, digartrefedd, tlodi a throseddu. Gall hefyd gael effaith ar iechyd meddwl a chorfforol
Cafwyd fod dynion yn y grŵp gwaith bôn braich di-grefft rhwng 25 a 39 mlwydd oed 10 gwaith yn fwy tebygol o farw o achosion sy’n gysylltiedig ag alcohol na’r rheiny yn y grŵp proffesiynol
Pobl ag Anableddau Corfforol, Synhwyraidd a Dysgu
- Nid yw adeiladau nac ardaloedd i gerddwyr yn hygyrch i bobl â phroblemau symudedd, gweld a chlywed
- Mae pobl ag anableddau dysgu’n fwy tebygol o fod â phroblemau iechyd meddwl, a phroblemau iechyd eraill na’r boblogaeth ar gyfartaledd
Iechyd y Geg
- Mae iechyd deintyddol gwael ymhlith plant yn fwy tebygol pan eu bod yn profi tlodi er bod hyn yn llawer is mewn ardaloedd lle mae fflworid yn y dŵr
- Yn ôl Arolwg Iechyd Cymru, mae gan 32% o’r oedolion ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr lai nag 21 o ddannedd, o’i gymharu â chyfartaledd o 30% ar gyfer Cymru gyfan.
Plant a Phobl Ifanc
- Mae anafiadau i gerddwyr ifanc o ganlyniad i ddamweiniau traffig yn uwch na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru gyfan ac mae’r cyfraddau’n uwch yn yr ardaloedd mwy amddifadus
- Yn ôl arolygon cenedlaethol, mae plant a phobl ifanc ag anhwylder meddwl yn fwy tebygol o fod yn wrywaidd, o fod yn byw mewn aelwyd ar incwm ac mewn aelwyd un-rhiant
- Mae canran yr aelwydydd un-rhiant sydd â phlant dibynnol 8 gwaith yn uwch mewn rhai ardaloedd yn y Fwrdeistref Sirol – 13% yn yr ardaloedd mwyaf amddifadus o’i gymharu ag 1.5% yn yr ardaloedd llai amddifadus
- Gallai’r ffactorau sy’n arwain at bwysau geni isel gynnwys bod yn llai goludog, beichiogrwydd ymhlith merched yn eu harddegau a sefyllfa lle mae’r fam yn ysmygu yn ystod ei beichiogrwydd
- Mae beichiogrwydd ymhlith merched yn eu harddegau’n gysylltiedig â chyfraddau marwenedigaeth uwch
- O fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae cyfraddau bwydo o’r fron pan fo babanod yn un mis oed yn is mewn wardiau amddifadus (25% ym Metws o’i gymharu â 39% ym Mracla). Gwyddys fod bwydo o’r fron yn gysylltiedig â manteision i iechyd y fam a’r plentyn
Pobl Hŷn
- Gall henaint ddod â thlodi yn ei sgîl wrth i gynilion a gwerth pensiynau ostwng - gall pobl oedrannus gael eu hallgáu’n gymdeithasol, a pheidio â chael eu gwerthfawrogi’n llawn fel dinasyddion
- Mae ofn troseddau, cynyddu incwm i’r eithaf, cludiant hygyrch a mynediad at ddysgu gydol oes yn effeithio’n arbennig ar bobl hŷn
Gofalwyr
- Mae 12.6% o boblogaeth Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ofalwyr di-dâl, cyfradd sy’n uwch na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru gyfan (11.7%)
