Mae Her Iechyd Cymru’n her allweddol bwysig i’r genedl. Mae’n her i Lywodraeth yn lleol ac yn genedlaethol ac yn helpu i greu’r amodau sy’n angenrheidiol er mwyn i bobl fyw bywydau iachach a gwella’u hiechyd. Mae’n galw ar gyrff a chyflogwyr a grwpiau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector gwirfoddol i wneud cymaint ag y gallant i helpu eu cwsmeriaid a phobl sy’n defnyddio’u gwasanaethau, a’u cyflogeion, i wella eu hiechyd. Mae hefyd yn galw arnom ni fel unigolion i wneud yr hyn a allwn i ddiogelu a gwella ein hiechyd ein hunain.

Nid oes amheuaeth mai iechyd yw ein hased mwyaf ond mae’n aml yn cael ei esgeuluso ac mae nifer o bobl ledled y Fwrdeistref Sirol yn dioddef canlyniadau afiechydon, y gellid bod wedi’u hatal ac y mae’n dal yn bosib eu hatal. Mae afiechyd yn dwyn effaith andwyol enfawr ar unigolion a’u teuluoedd, ar gymunedau, ar ein heconomi ac ar effeithiolrwydd perfformiad busnesau. Mae hefyd yn rhoi galwadau y gellid eu hosgoi ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, sydd eisoes dan bwysau, ac ar wasanaethau cymorth eraill. Mae un rhan sylweddol o’r galwadau hyn yn ymwneud â thrin damweiniau ac anafiadau a chanlyniadau ysmygu, camddefnyddio alcohol a chyffuriau a risgiau eraill y mae pobl yn eu creu i’w hiechyd.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a’i phartneriaid yn rhoi’r flaenoriaeth uchaf i fesurau i wella iechyd a lles a chyfranogiad gweithredol ac ymarferol yn yr ymdrechion i gyflawni’r amcanion. Mae Her Iechyd Cymru’n cynnig gwell cydnabyddiaeth i bobl a chyrff am yr hyn y maent yn ei wneud ar hyn o bryd i wella iechyd a sbarduno ffordd arloesol o feddwl am y pethau ychwanegol y gallent eu gwneud. Mae’r themâu iechyd allweddol yn cynnwys cymryd camau gweithredu er mwyn:

  • Lleihau’r arfer o ysmygu
  • Helpu i ostwng lefelau gordewdra
  • Codi lefelau cyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol
  • Gostwng nifer y damweiniau ac anafiadau
  • Lleihau’r arfer o gamddefnyddio alcohol a sylweddau eraill
  • Atal heintiau (rhai a drosglwyddir yn rhywiol; rhai a ddelir yn ystod gofal iechyd; rhai y gellir eu hatal â brechiad; pydredd dannedd)
  • Gwella iechyd meddwl a lles meddyliol

Her Iechyd Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Bwrdd Iechyd Lleol Pen-y-bont ar Ogwr yn benderfynol o barhau i wella iechyd pobl yn y Fwrdeistref Sirol a hoffent wneud hynny mewn partneriaeth gyda chi a chyrff cyhoeddus, gwirfoddol a statudol eraill. I’r perwyl hwn cafodd Her Iechyd Pen-y-bont ar Ogwr ei lansio yn 2006 gyda ffocws ar weithgarwch corfforol i ddechrau. Bydd y pecyn briffio hwn (a chyhoeddiadau eraill) yn rhoi gwybodaeth i bartneriaid am bob agwedd ar agenda Her Iechyd Pen-y-bont ar Ogwr, ac ar atal afiechyd a hybu iechyd yn gyffredinol. Rydym hefyd yn bwriadu ymgymryd â rhaglen addysg sydd wedi’i bwriadu i wella gwybodaeth am benderfynyddion iechyd (ffordd o fyw, addysg, yr amgylchedd, tai, ac incwm) ac am ystod o weithgareddau y gellir eu cyflawni i atal afiechyd a gwella iechyd a lles.

Os cymerwn ni ymdrechion i wella iechyd meddwl fel enghraifft, mae gan bawb anghenion iechyd emosiynol ac iechyd meddwl. Mae cynnal iechyd meddwl da’n bwysig am ei fod yn dylanwadu ar y ffordd yr ydym yn meddwl ac yn teimlo amdanom ni ein hunain yn ogystal ag am bobl eraill. Gall hefyd effeithio ar y ffordd yr ydym yn ymdopi â digwyddiadau bywyd beunyddiol, megis perthnasau a dygymod â newid. Mae gofalu am ein lles meddyliol yr un mor bwysig â gofalu am ein lles corfforol.