Yfed yn synhwyrol
Er ei fod o bosib yn gwneud i bobl deimlo’n dda yn y tymor byr, iselydd yw alcohol. Mae hyd yn oed ychydig bach o alcohol cyn mynd i’r gwely’n atal pobl rhag cael digon o gwsg dwfn i deimlo’u bod wedi dadflino’n llwyr – ac nid yw pethau byth yn edrych yn ffafriol pan fo gan rywun ben mawr. Mae osgoi gormod o alcohol yn allweddol i les meddyliol a chorfforol, ond yn enwedig pan fo pobl yn teimlo’n isel neu’n bryderus. I gael mwy o wybodaeth gweler y dolenni ar yr ochr chwith.
