Hybu’r agweddau cadarnhaol ar fywyd
Mae helpu pobl i weld yr ochr gadarnhaol i bethau’n bwysig. I unigolyn, cadwch bapur a phin ysgrifennu wrth ochr y gwely a phob nos am wythnos ysgrifennwch dri pheth da a ddigwyddodd i chi'r diwrnod hwnnw. Erbyn diwedd yr wythnos efallai y cewch eich synnu cymaint yn fwy cadarnhaol y byddwch yn teimlo. Dywed rhai seicolegwyr ei bod yn rhan o’r natur ddynol ein bod yn canolbwyntio ar yr agweddau negyddol ar ein bywydau. Yr hyn y mae’r dechneg hon o gymorth i’w wneud yw ein hailddysgu i dalu sylw i’r pethau da a chadarnhaol yn ein bywydau. Gall mudiadau a sefydliadau hefyd annog pobl i werthfawrogi’r pethau cadarnhaol sy’n digwydd.
