Gosod targedau realistig

Nid mewn undydd y codwyd Rhufain. Gall hyd yn oed y tasgau mwyaf uchelgeisiol a chymhleth gael eu rhannu’n ddarnau llai, mwy dichonadwy. Mae gosod nodau realistig, cyraeddadwy’n ffordd dda o gynnal ysbryd pobl a pharhau i gamu ymlaen. Ysgrifennwch beth ydynt ac erbyn pryd yr ydych yn gobeithio’u cyflawni. Peidiwch â digalonni os byddwch yn newid eich cynlluniau yn y cyfamser cyn belled â’ch bod yn gwybod yn iawn pam. Cofiwch eich llongyfarch eich hunain, a llongyfarch eich cydweithwyr a’ch ffrindiau bob tro y cyrhaeddir rhyw nod neu’i gilydd!