Cadwch olwg ar straen bersonol
Mae peth pwysau yn anorfod – a gall peth pwysau ein hysgogi – ond mae straen yn niweidiol i les meddyliol a chorfforol (straen yw pan fo pwysau’n mynd yn fwy na’n gallu i ymdopi). Os byddwch yn cael eich bod chi neu fod eraill yn methu â chysgu, mewn tymer ddrwg yn aml, yn cael anhawster canolbwyntio, yn gofidio llawer, yn bwyta llawer mwy neu lawer llai, neu’n teimlo ‘ar bigau drain’ trwy’r amser yna dylech gymryd cam yn ôl ac ystyried faint o bwysau sydd arnoch chi neu ar eraill. Ceisiwch feddwl beth allech chi ei wneud i gael gwared ar, neu leihau’r hyn sy’n achosi’r pwysau yn eich bywyd ac ym mywydau eraill. Yn y cyfamser, ceisiwch ymdrin ag effeithiau straen trwy hybu mwy o ymlacio, a dulliau cadarnhaol eraill o ymdopi.
