Bwyta diet cytbwys

Mae corff cynyddol o ymchwil yn dangos cysylltiadau uniongyrchol rhwng yr hyn yr ydym yn ei fwyta, ein hiechyd a’r ffordd yr ydym yn teimlo. Mae MIND, yr elusen iechyd meddwl, wedi cynhyrchu arweiniad defnyddiol i’r cysylltiad rhwng tymer a bwyd. I gael mwy o wybodaeth gweler gwefan Mind. I gael gwybodaeth gyffredinol am fwyd gweler gwefan eatwell yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Mae gwybodaeth hefyd ar gael am waith cydweithfeydd bwyd lleol i ddarparu bwyd ffres a dyfwyd yn lleol; gweler isod.

Cydweithfeydd Bwyd Cymunedol
Crynodeb
Mae Rhaglen y Cydweithfeydd Bwyd Cymunedol yng Nghymru’n darparu ffrwythau a llysiau fforddiadwy o ansawdd da ar gyfer cymunedau trwy rwydweithiau dosbarthu bwyd lleol cynaliadwy.

Mae’r cydweithfeydd bwyd yn gweithio trwy gysylltu gwirfoddolwyr lleol, sy’n rhedeg y cydweithfeydd bwyd, â chyflenwr lleol, sy’n dyfwr ac/neu’n gyfanwerthwr lleol. Cytunir ar system syml ar gyfer talu am y cynnyrch a’i ddanfon, sy’n galluogi’r gwirfoddolwyr i archebu’r bagiau ffrwythau a llysiau yn wythnosol a thalu amdanynt ymlaen llaw. Mae cwsmeriaid yn casglu’u ffrwythau a llysiau mewn lleoliad y cytunwyd arno yn ystod oriau agor y cydweithfeydd ac yn rhoi eu harchebion ac yn talu am yr wythnos ganlynol.

Hanes
Cafodd partneriaeth ei ffurfio rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Uned Adfywio Gwledig ac ym mis Ebrill 2004 fe gychwynnodd cynllun peilot dwy-flynedd i ddatblygu cydweithfeydd bwyd cymunedol yng Ngogledd a De Cymru. Roedd yr ardal beilot yn cynnwys amrywiaeth o ardaloedd gwledig a threfol gan gynnwys Cymoedd De Cymru.

Mae’r cynllun peilot wedi cael ei werthuso gan Athrofa’r Gymdeithas, Iechyd a Moeseg Caerdydd ac Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru a daethpwyd i’r casgliad bod y rhan fwyaf o bobl sy’n prynu o’r cydweithfeydd yn bwyta mwy o ffrwythau a llysiau. Roedd y manteision eraill yn cynnwys newidiadau i ansawdd bywydau cymdeithasol a chysylltiadau â phobl eraill, gwelliannau canfyddadwy mewn iechyd a dealltwriaeth am faterion sy’n gysylltiedig ag iechyd. Cofnodwyd newidiadau mewn agweddau tuag at ffrwythau a llysiau ymhlith buddiolwyr eraill: mewn teuluoedd, mewn ysgolion ac yn y gymuned gyfan.

Ym mis Ebrill 2006 cymeradwywyd cyllid pellach i gynnal, datblygu ac ymestyn y rhaglen ac i wneud gwaith pellach i ddatblygu’r cyflenwad o gynnyrch garddwriaethol wedi’u dyfu yng Nghymru sy’n cael ei ddarparu ar gyfer y cydweithfeydd bwyd.

Y rhaglen gyfredol ar gyfer 2008-2011
Caiff Rhaglen y Cydweithfeydd Bwyd Cymunedol yng Nghymru ei chyllido gan Adrannau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Materion Gwledig Llywodraeth Cynulliad Cymru a’i darparu trwy grant i’r Uned Adfywio Gwledig.

Mae’r rhaglen yn ategu cynllun gweithredu Llywodraeth Cynulliad Cymru ar brynu cynnyrch lleol ac yn rhoi anogaeth i ostwng milltiroedd bwyd a datblygu arferion mwy cynaliadwy. Mae’n rhoi cymorth i dyfu / prynu ffrwythau a llysiau’n lleol lle y bo’n bosib ac yn creu gwell cysylltiadau rhwng ardaloedd trefol a gwledig.

Mae’r rhaglen wedi mynd o nerth i nerth, gyda thros 220 o gydweithfeydd bwyd cymunedol wedi cael eu sefydlu hyd yma, a’r rheiny’n darparu ffrwythau a llysiau ar gyfer oddeutu 6500 o deuluoedd ac yn cynnwys tua 1400 o wirfoddolwyr. Mae’r rhaglen yn gwerthu tua 11,000 o fagiau o ffrwythau a llysiau'r wythnos am £3 y bag; cyfartaledd o 60 bag gan bob cydweithfa fwyd. Gall bag cyffredin o ffrwythau, llysiau neu salad fwydo teulu o 4. Ar hyn o bryd mae 6 o dyfwyr, 20 manwerthwr, 16 cyfanwerthwr ac 1 fenter gymdeithasol yn cyflenwi’r cydweithfeydd bwyd. Caiff y manwerthwyr a’r cyfanwerthwyr eu dewis ar y sail eu bod yn darparu cymaint o gynnyrch lleol â phosib. Mae un o’r tyfwyr yn cyflenwi mwy na 30 o’r cydweithfeydd yng Ngogledd Cymru.

Gwobrau
Gwobr Gwrthweithio Gordewdra gan Sefydliad Iechyd y Byd
Ym mis Tachwedd 2006 fe enillodd rhaglen y Cydweithfeydd Bwyd Cymunedol wobr gan Sefydliad Addysg y Byd am wrthweithio gordewdra o ganlyniad i weithgareddau sy’n hyrwyddo ffrwythau a llysiau, gyda ffocws ar ddefnyddwyr agored i niwed. Cafodd y rhaglen ei dewis o blith 202 o geisiadau o 35 o wledydd. Fe’i cyflwynwyd yn ddiweddarach fel enghraifft o arfer da yng nghynhadledd Sefydliad Iechyd y Byd ar fentrau cymunedol sy’n cynyddu’r arfer o fwyta’n iach a gweithgarwch corfforol.

Hyrwyddwyr Gwledig yng Nghymru
Ym mis Ebrill 2009 fe enillodd y rhaglen wobr Hyrwyddwyr Gwledig Ymddiriedolaeth Carnegie yn y DU. Caiff y gwobrau eu rhoi i hyrwyddwyr gwledig sydd wedi gwneud gwahaniaeth go iawn yn yr ardaloedd y maent yn byw ynddynt. Gwobrwyir pump o Hyrwyddwr Gwledig buddugol o’r Alban, Lloegr, Cymru, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon a 10 arall sydd wedi cyrraedd yr ail a thrydydd safle. Cafodd y rhaglenni a phrosiectau buddugol eu dewis ar sail arloesedd, cynaliadwyedd a throsglwyddadwyedd. Mae Ymddiriedolaeth Carnegie yn un o sefydliadau annibynnol a dielw mwyaf blaenllaw’r DU.

Gwefannau

http://www.rru.org.uk
http://www.physicalactivityandnutritionwales.org.uk/page.cfm?orgid=740&pid=29570 (English)
http://www.gweithgareddcorfforolamaethcymru.org.uk/w-page.cfm?orgid=740&pid=29753 (Welsh)

Bwytewch Fwyd Lleol Ffres
Cydweithfeydd Bwyd