Anogaeth i wneud ymarfer corff

Mae ymarfer corff yn cael effaith ar dymer ac iechyd person ar unwaith. Pa un a yw’n sesiwn ymarfer yn y gampfa ynteu’n dro hamddenol neu daith ar feic, gall godi ysbryd rhywun. Gall ymarfer corff hefyd fod yn llawer o hwyl ac yn rhywbeth cymdeithasol. I gael mwy o wybodaeth am gyfleusterau hamdden ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gweler y ddolen ar y chwith.