Cewch wybod sut y gallwch ofalu am eich lles corfforol, emosiynol a meddyliol trwy ddilyn ein 10 awgrym gorau.

Mae gan bawb anghenion o ran iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol. Mae cynnal iechyd da’n bwysig am ei fod yn dylanwadu ar y ffordd yr ydym yn meddwl ac yn teimlo amdanom ni ein hunain yn ogystal ag am bobl eraill. Gall hefyd effeithio ar y ffordd yr ydym yn ymdopi â digwyddiadau bywyd beunyddiol, megis perthnasoedd ac ymdopi â newid.

Dyma rai awgrymiadau syml i’ch helpu i ofalu am eich lles corfforol, eich lles emosiynol a’ch lles meddyliol chi eich hun:

  1. Bwyta diet cytbwys
  2. Yfed yn synhwyrol
  3. Hybu cyswllt cymdeithasol
  4. Anogaeth i wneud ymarfer corff
  5. Cael digon o gwsg
  6. Hybu’r agweddau cadarnhaol ar fywyd
  7. Ceisio cymorth
  8. Gosod nodau realistig
  9. Chwarae rhan
  10. Cadw golwg ar straen bersonol

Mae diffyg lles corfforol a meddyliol yn y boblogaeth yn faich sylweddol ar gymdeithas ac mae ar gynnydd. Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi amcangyfrif y bydd afiechyd meddwl yn effeithio ar un person ym mhob pedwar ar ryw adeg neu’i gilydd yn ei fywyd. Mae ymchwil ganddo wedi canfod mai iselder yw prif achos anabledd ledled y byd ac mai dyma bedwerydd achos mwyaf y baich clefydau byd-eang. Mae’n darogan mai iselder fydd ail achos mwyaf y baich clefydau byd-eang erbyn 2020.