Pecyn Briffio
Mae pecyn briffio ar yr agenda gwella iechyd wedi cael ei ddatblygu, ac wedi cael ei lansio. Nod y pecyn yw helpu mudiadau a sefydliadau, yn rhai bach a mawr, i hybu’r agenda penderfynyddion iechyd.
Rydym yn awyddus i drefnu sesiynau sy’n gweddu i anghenion mudiadau a sefydliadau unigol. Os hoffech chi i sesiwn gael ei chynnal ar gyfer eich mudiad neu’ch sefydliad chi, rhowch wybod imi os gwelwch yn dda. Dim ond trwy weithdai y mae copïau o’r pecyn yn cael eu dosbarthu felly nid oes copïau unigol ar gael. Os hoffai eich mudiad neu’ch sefydliad chi gynnal gweithdy rhowch wybod i David Parratt os gwelwch yn dda.
