Erfyn Sgrinio Effeithiau Integredig

A fydd prosiect newydd yn gwella iechyd?
A fydd o gymorth i wneud Pen-y-bont ar Ogwr yn lle gwyrddach?
A fydd yn helpu grwpiau difreintiedig (er enghraifft, pobl hŷn, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig)?

Mae erfyn sgrinio wedi cael ei ddatblygu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a fydd yn helpu staff mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid eraill i adnabod effeithiau unrhyw bolisi, prosiect neu ddatblygiad newydd ar iechyd, datblygu cynaliadwy, cydraddoldebau a diogelwch cymunedol. Bydd hwn yn cael ei gwblhau’n fuan a’i rannu’n eang. Mae datblygu erfyn o’r fath yn elfen greiddiol o weithredu’r Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles a phrif strategaethau eraill y Cyngor. Mae’n sicrhau bod effeithiau cadarnhaol a negyddol yn cael eu hadnabod yn gynnar a, lle y bo’n briodol, y gellir cymryd camau gweithredu lliniarol. Gallai’r erfyn sgrinio ddangos bod angen cynnal asesiadau mwy manwl, er enghraifft Asesiadau o’r Effeithiau ar Iechyd a Chydraddoldebau.

I gael mwy o wybodaeth am asesu’r Effaithiau ar Iechyd, gweler gwefan Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru:

http://www.wales.nhs.uk/sites3/home.cfm?OrgID=522asee